#

Y Pwyllgor Deisebau | 12 Chwefror 2019
 Petitions Committee | 12 February 2019
 
 
 ,P-05-863 Darparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel. 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

 

P-05-863 Darparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel.

Mae Sefydliad y Merched (WI) Malpas yn galw am ddarparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel.

Sefydlwyd Sefydliad y Merched ym 1915, ac mae’n ymgyrchu dros faterion sy’n bwysig i fenywod a’u cymunedau.

Ein nod yw grymuso ac ysbrydoli menywod o bob oed. Credwn na ddylid gorfodi neb i fynd heb gynhyrchion hylendid oherwydd cost y nwyddau hyn.

Gyda rhagor o fenywod o hyd yn gorfod defnyddio banciau bwyd i gadw eu hunain yn fyw, daeth yn amlwg bod cynhyrchion hylendid yn foethustra na all menywod ar incwm isel eu fforddio.

Ar draws y DU mae genethod sy’n rhy dlawd i brynu nwyddau hylendid. Maent yn gorfod colli ysgol. Tanseilir eu hurddas.

Mae anghenion menywod wedi cael eu hesgeuluso am amser rhy faith. Yn wahanol i drafodion eiddo, mae cynhyrchion hylendid yn dal heb eu heithrio rhag TAW. Nid yw’r mislif yn rhywbeth moethus, mae’n rhywbeth anhepgor. Nid yw menywod yn dewis cael mislif.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn arweiniad yr Alban a darparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel.

 

Cefndir

Tlodi mislif yw pan fo menywod a merched yn ei chael hi’n anodd fforddio cynhyrchion hylendid hanfodol bob mis, gan arwain at effeithiau sylweddol ar eu hylendid, eu hiechyd a’u llesiant.

Yn ôl Plan International UK, elusen hawliau i ferched, nid yw un o bob 10 merch yn y DU yn gallu fforddio eitemau hylendid. Mae canfyddiadau eu gwaith ymchwil yn dangos bod un o bob saith merch wedi gorfod gofyn am gael benthyg eitemau hylendid gan ffrind oherwydd materion ynghylch fforddiadwyedd, a bu’n rhaid i fwy nag un o bob 10 merch greu eu cynhyrchion hylendid eu hun am yr un rheswm. Mae’r elusen wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi terfyn ar dlodi mislif drwy ddarparu cynhyrchion hylendid am ddim mewn ysgolion, banciau bwyd a llochesi i’r digartref.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Gwnaeth Carwyn Jones AC, y cyn Brif Weinidog, ymrwymiad y byddai Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol yng Nghymru i lunio ymateb cenedlaethol a chynaliadwy i dlodi mislif.

Ar 23 Mawrth 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi dyrannu £1 miliwn i fynd i’r afael â thlodi mislif yng Nghymru. Mae datganiad Llywodraeth Cymru yn egluro y bydd ‘awdurdodau lleol yn derbyn £440,000 dros y ddwy flynedd nesaf i fynd i’r afael â thlodi misglwyf yn eu cymunedau lle mae lefelau amddifadedd ar eu huchaf. Byddan nhw’n derbyn £700,000 o gyllid cyfalaf hefyd er mwyn gwella cyfleusterau a chyfarpar mewn ysgolion – gan wneud yn siŵr y gall pob merch a menyw ifanc gael mynediad i gyfleusterau hylendid da pan fyddan nhw eu hangen’.

Dadl yn y Cynulliad

Ar 2 Mai 2018, pasiodd Aelodau’r Cynulliad gynnig, a gyflwynwyd gan Jane Hutt AC a Jenny Rathbone AC, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried effaith tlodi mislif a’r stigma cysylltiedig ar fenywod a merched yng Nghymru yn ystod dadl yn y Cyfarfod Llawn.

Codwyd y mater yn flaenorol yn y Senedd. Ym mis Hydref 2017, cyflwynodd Huw Irranca-Davies AC gwestiwn yn galw am ddatganiad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ac annog ymdrechion gan wirfoddolwyr ac awdurdodau lleol ar lawr gwlad i fynd i’r afael â thlodi mislif.

Rhagor o wybodaeth

Ar 2 Chwefror 2019, cyhoeddodd BBC Cymru erthygl, ‘Patients ‘denied free sanitary products’ in some Welsh hospitals’, a oedd yn nodi nad yw rhai byrddau iechyd yn darparu cynhyrchion hylendid i gleifion.

 

Mae adran Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad, ‘Archwilio ymatebion banciau bwyd Cymru i dlodi mislif’.

 

Mae Llywodraeth yr Alban yn ymdrin â thlodi mislif drwy gynnig padiau hylendid a thamponau am ddim i fenywod a merched o gartrefi incwm isel. Darparwyd cynhyrchion hylendid am ddim mewn llawer o ysgolion, colegau a phrifysgolion ers mis Awst 2018. Ym mis Ionawr 2019, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ei bwriad i ehangu’r gwaith hwn, gan sicrhau bod £4 miliwn ar gael i dalu am ddarparu cynhyrchion hylendid am ddim mewn mwy o leoedd cyhoeddus, fel canolfannau hamdden a llyfrgelloedd. Awdurdodau lleol fydd yn penderfynu ar leoliadau penodol ar gyfer dosbarthu’r cynhyrchion hyn i ateb y galw lleol yn y ffordd orau.